SL(5)228 – Gorchymyn Trwyddedu Morol (Gweithgareddau Esempt) (Cymru) (Diwygio) 2018
Cefndir a Diben
Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Trwyddedu Morol (Gweithgareddau Esempt) (Cymru) 2011 (“Gorchymyn 2011”), sy’n cyfeirio at Gyfarwyddeb 2008/98/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 19 Tachwedd 2008 ar wastraff ac yn diddymu Cyfarwyddebau penodol (“y Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff”).
Diwygiwyd y Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff gan Reoliad y Cyngor (UE) 2017/997 dyddiedig 8 Mehefin 2017 sy’n diwygio Atodiad III i Gyfarwyddeb 2008/98/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran y nodwedd beryglus HP 14 ‘Ecowenwynig’.
Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn diwygio’r cyfeiriad at y Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff yn erthygl 3 o Orchymyn 2011 i gyfeirio at y Gyfarwyddeb fel y’i diwygwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (UE) 2017/997.
Mae erthygl 3 yn dirymu Gorchymyn Trwyddedu Morol (Gweithgareddau Esempt) (Cymru) (Diwygio) 2016.
Y weithdrefn
Negyddol.
Materion technegol: craffu
Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.
Rhinweddau: craffu
Ni nodir unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.
Y goblygiadau yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd
Mae'r Rheoliadau hyn yn diweddaru'r cyfeiriadau at y Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff, i adlewyrchu'r newidiadau a wnaed i'r Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff. Mae'r Rheoliadau hyn yn gweithredu cyfraith yr UE a bydd felly yn ffurfio rhan o gyfraith yr UE a ddargedwir ar ôl y diwrnod ymadael.
Mae'r Cytundeb Rhynglywodraethol ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a Sefydlu Fframweithiau Cyffredin yn nodi bod gwahanol elfennau o “ansawdd amgylcheddol” a "rheoli pysgodfeydd" yn feysydd polisi sy'n debygol o fod yn ddarostyngedig i reoliadau cymal 15 o dan Fil yr UE (Ymadael). Felly, mae'r gyfraith sy'n dod o dan y Rheoliadau hyn yn debygol, yn rhannol neu yn llawn, o fod yn faes o gyfraith yr UE sy'n cael ei rewi tra bod fframweithiau cyffredin yn cael eu rhoi ar waith.
Ymateb y Llywodraeth
Nid oes angen ymateb y llywodraeth.
Cynghorwyr Cyfreithiol
Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
15 Mehefin 2018